Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:25 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Suzy Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Chris Llewelyn, CLLC Karl Napieralla, Cyfarwyddwr Addysg Castell-nedd Port Talbot, ADEW Ann Keane, Chief Inspector of Education and Training in Wales Meilyr Rowlands, Strategic Director, Estyn |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Claire Griffiths (Secretary) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Camau i’w cymryd
· Cytunodd Karl Napieralla i ddarparu nodyn ynghylch sut mae Awdurdod Addysg Lleol Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu i gydweithio ag eraill
· Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am sut mae’r holl awdurdodau addysg lleol yng Nghymru wedi mynd i’r afael â’r mater o gydweithio, ac yn enwedig sut mae ysgolion a cholegau yn cydweithio’n effeithiol.
· Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn i’r holl awdurdodau addysg lleol ddarparu rhagor o fanylion am faterion teithio a thrafnidiaeth er mwyn cael darlun cliriach ar lefel genedlaethol.
3. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod.
5. Ymchwiliad i iechyd y geg - ystyried y prif faterion
5.1 Bu’r Aelodau yn trafod y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad i iechyd y geg gan nodi y bydd argymhellion drafft ar gael iddynt i’w hystyried yn y cyfarfod ar 7 Rhagfyr.
6. Trafod y flaenraglen waith
6.1 Bu’r Aelodau yn trafod yr awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau i’r dyfodol gan nodi y bydd y Clerc yn paratoi amserlen ddrafft ar gyfer tymor y gwanwyn i’r Pwyllgor ei hystyried.
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.